Yn nyfnder profedigaeth ddu

(Ymnerthu yn yr Arglwydd)
1,2,(3),4;  1,2,5,6.
Yn nyfnder profedigaeth ddu,
  Dôs Di Dy Hun o'm blaen;
Ond imi gael bod gyda Thi,
  Ni ofnaf ddŵr na thân.

At wedd dy wyneb nid yw ddim
  Trysorau maith y llawr,
Mae hanner gair o'th enau'n fwy
  Ei rym nag uffern fawr.

Mae angeu, a'r bedd, ac uffern ddu,
  Yn hongian wrth Dy groes;
Mil o elynion goncraist Ti
  Trwy ddioddef angeu loes.

Dy allu yw fy nerth a'm grym,
  Yn D'allu byddaf byw;
'R wy'n wàn, 'r wy'n llesg, ni allaf ddim
  Un funyd heb fy Nuw.

Fe gryn y byd, ac uffern fawr,
  Wrth amnaid T'wysog nen;
O! 'r fath ogoniant hwnw fu
  Yn dyoddef ar y pren.

Myfi anturia'n awr ymlaen
  Heb alwad îs y ne',
Ond bod perffeithrwydd mawr y groes
  Yn ateb yn fy lle.

                - - - - -

Yn nyfnder profedigaeth ddu,
  Ny Nuw, dos o fy mlaen;
Ond imi gael bod gyda thi,
  Nid ofnaf ddŵr na thân.

Tan bob cystuddiau fwy na mwy,
  Rhuadau cnawd a byd,
Mae digon nerth mewn marwol glwy',
  I'w maeddu oll ynghyd.

Fy nghysur unig dan bob gwae,
  Dy fod i mi yn Dduw;
Ac yn dy gysgod mi âf trwy,
  Gystuddiau o bob rhyw.

Fe'm golchir yn fy nghystudd trwm,
  Fe'm purir yn y tân;
Ac mi ddof allan, pan ddel dydd,
  Gwedi fy nghànu yn lân.
hanner gair o'th enau'n :: gair o'th enau'n llawer
a 'ngrym :: a'm grym
'R wy'n :: Wyf

William Williams 1717-91

Tonau [MC 8686]:
Bedford (William Wheale 1696-1727)
Cologne (alaw Ellmynig)
George's (<1835)
Gloucester (1621 Salmydd Ravenscroft)
Martyrs (Psalmydd Ysgotaidd)
St Mary (Salmydd E Prys)
Tallis (Thomas Tallis c.1505-1585)

gwelir:
  Am angau'r groes mae canu'n awr
  At wedd dy wyneb nid yw ddim
  Boed dyoddefiadau pur y groes
  Dyma bechadur truan gwan
  Fy enaid gorfoledda mwy
  Mi dafla'm baich i lawr i gyd
  O tyred Arglwydd saif wrth raid
  Pan byddo f'Arglwydd imi'n rhoi
  Pererin wyf mewn anial dir (Yn crwydro ...)
  Rwy'n morio tua chartre'm Ner
  Wel f'enaid gorfoledda mwy
  Yn nyfnder pob cyfyngder du

(Being strong in the Lord)
 
In the depth of black tribulation,
  Come Thou Thyself before me;
If only I may get to be with Thee,
  I shall fear neither water nor fire.

To the likeness of thy countenance is none
  Of the vast treasures of below,
Half a word from thy mouth is greater
  In its force than great hell.

Death, and the grave, and black hell, are
  Hanging by Thy cross;
A thousand enemies Thou didst conquer
  Through suffering the pangs of death.

Thy power is my strength and my force,
  In Thy power I will live;
I am weak, I am feeble, I can do nothing
  For one minute without my God.

The world shall shake, and great hell,
  At the sign of the Prince of heaven;
Oh what glory that was
  Suffering on the tree.

As for me, I shall venture now onward
  Without a call above heaven,
But that the great perfection of the cross be
  An answer in my place.

                  - - - - -

In the depth of black tribulation,
  My God, come before me;
If only I may get to be with Thee,
  I shall fear neither water nor fire.

Under every affliction, more than more,
  The roars of flesh and world,
There is enough strength in a mortal wound,
  To shatter them all together.

My only comfort under every woe,
  That Thou be God to me;
And in thy shadow I will go through,
  Afflictions of every kind.

I am to be washed in my heavy affliction,
  I am to be purified in the fire;
And I shall come out, when the day comes,
  After my bleaching clean.
half a word from thy mouth (is) :: a word from thy mouth (is) much
::
::

tr. 2013 Richard B Gillion



The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~